Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Ar ôl bron 18 mis heb ddim digwyddiadau ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, mae’n hyfrydwch gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi Digwyddiad Ceffylau deuddydd ar Faes y Sioe ar y 18fed a’r 19eg Medi. Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth eang o ddosbarthiadau wedi’u gosod yn erbyn cefndir y Maes Sioe eiconig.

Neilltuwch y dyddiad i wneud yn siwr na fyddwch yn ei fethu.  Bydd rhagor o fanylion am yr atodlen lawn a’r dosbarthiadau’n cael eu rhyddhau yn y man.