Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Prif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru…

Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau dangos da byw, â chystadleuwyr yn teithio o fannau pell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb, diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous.

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2025 rhwng dydd Llun 21ain a dydd Iau  24ain  o Orffennaf. 

Digwyddiadau sy'n cael eu cynnal

Pedwar diwrnod yn llawn cystadlaethau, atyniadau, arddangosiadau, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a siopa... mae digonedd i'w weld a'i wneud yn Sioe Frenhinol Cymru. Gallwch weld y rhaglen o ddigwyddiadau dyddiol a manylion y prif atyniadau yma:

Prynwch eich tocynnau nawr

Prynnwch eich tocynnau nawr. Bydd angen prynu pob tocyn cyn y digwyddiad trwy ein gwefan ac ni fyddant ar gael wrth y giât

Llwythwch Ap Frenhinol Cymru i Lawr

Mae fersiwn 2024 o Ap Frenhinol Cymru ar gael i'w lwytho i lawr. Mae'n adnodd dwyieithog hwylus sy'n cynnwys map rhyngweithiol, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion ynghylch cadw'n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.

MAP SIOE FRENHINOL CYMRU

Edrychwch ar map o'r sioe cyn cyrraedd i'ch helpu i gynllunio i ble'r ydych chi'n dymuno mynd a beth yr hoffech chi ei weld

DYDDIADAU I'R DYDDIADUR

Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer dyddiadau Sioe Frenhinol Cymru sydd ar ddod... 22-25 Gorffennaf 2024 / 21-24 Gorffennaf 2025 / 20-23 Gorffennaf 2026 / 19-22 Gorffennaf 2027