Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae maes y sioe yn lle delfrydol i gynnal eich diwrnod arbennig – beth bynnag fo’r math o briodas rydych chi’n ei chynllunio, mawr neu fach, ffurfiol neu fwy anffurfiol… mae rhywbeth ar gael i bawb yma.
Wedi’i leoli yng nghanol prydferthwch canolbarth Cymru, mae’r maes yn eistedd o fewn 150 o erwau ac yn mwynhau golygfa fendigedig o’r wlad o amgylch, gan ddarparu’r cefndir perffaith i chi greu priodas eich breuddwydion, ac mae ein tîm ymroddedig wrth law i sicrhau bod eich diwrnod yn un i gofio.
Byddem yn falch iawn o glywed am eich cynlluniau ar gyfer eich diwrnod mawr!
Gyda dau leoliad trwyddedig ar faes y sioe sy’n eich galluogi i gynnal eich seremoni a’ch derbyniad gyda ni.
Mae gennym amrywiaeth o leoedd gwahanol ar gael i’w llogi, gyda lle i rhwng 30 a 400 o westeion.
I gysylltu, e-bostiwch neu ffoniwch am fwy o wybodaeth