Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
22-25 Gorffennaf 2024.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae maes y sioe yn cynnwys dros 150 erwau o dir, llawer o adeiladau gwahanol, cyfleusterau cynadleddau a lle i gynnal arddangosfeydd, ynghyd â chysylltiadau band llydan cyflym iawn a mast ffonau symudol 4G ar y safle, felly mae’n un o’r lleoliadau â’r cysylltedd gorau yng Nghanolbarth Cymru, ac mae’n addas iawn ar gyfer pob mathau o ddigwyddiadau.
Boed hynny yn ddigwyddiad pedwar diwrnod eiconaidd Sioe Frenhinol Cymru, cyfarfod bychan, priodas gartrefol ei naws, arddangosfa fawr, digwyddiad chwaraeon yn yr awyr agored, ffair hen greiriau, sioe gŵn, arwerthiant defaid… mae maes y sioe yn lleoliad delfrydol.
Mae maes y sioe yn lle delfrydol i gynnal eich diwrnod arbennig – beth bynnag fo’r math o briodas rydych chi’n ei chynllunio, mawr neu fach, ffurfiol neu fwy anffurfiol… mae rhywbeth ar gael i bawb yma.
Rydym ni wedi helpu i hwyluso miloedd o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd ac rydym ni'n fwy na bodlon trafod eich cynlluniau â chi a'ch helpu i benderfynu pa leoliad fyddai'n gweddu orau i chi. Beth am ymweld â ni i gael golwg ar y cyfleusterau...